P-05-823 Gostwng y terfyn cyflymder ar yr A487 ym Mhenparcau

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Rhian Lewis ar ôl casglu 262 o lofnodion.

Geiriad y ddeiseb

Rydym ni, fel trigolion ac ymwelwyr Penparcau, yn deisebu Pwyllgor Priffyrdd Cyngor Ceredigion i ostwng cyflymder y traffig ffordd, o 30mya i 20mya, ar yr A487 rhwng y groesfan belican ar Ffordd Penparcau a’r groesfan sebra ar First Avenue, a hynny er mwyn lleihau’r perygl o anaf a marwolaeth i gerddwyr ar y darn peryglus hwn o ffordd.

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Ceredigion

·         Canolbarth a Gorllewin Cymru